Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau ac Ymddygiad Aelodau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025
Pwynt craffu technegol 1: Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y gellid bod wedi gwneud y cysylltiad rhwng y cyfeiriad at Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 ym mharagraff cyntaf y rhaglith a’r cyfeiriad at y Ddeddf honno yn ail baragraff y rhaglith yn fwy eglur. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gyd-destun y rhaglith yn ei chyfanrwydd, mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod ystyr “y Ddeddf” yn ddigon clir.
Pwynt craffu technegol 2: Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 eisoes wedi eu diffinio fel “Deddf 1972” a “Deddf 2000” yn y drefn honno yn nhestun presennol rheoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001. Fodd bynnag, nid yw cyfeirio at y ddwy Ddeddf hyn wrth eu henwau llawn yn y diffiniad o “swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol” sydd wedi ei fewnosod yn creu unrhyw ddryswch, ac mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y geiriau yn cyflawni’r effaith a fwriedir.
Pwynt craffu technegol 3: Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn nad yw’r rhestr o ddiffiniadau ym mharagraff 1(1) o’r Atodlen i destun Cymraeg Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 yn y drefn gywir o ran yr wyddor (oherwydd bod “eich awdurdod” yn y lle anghywir), a’i bod yn ymddangos bod y diffiniad o “cymdeithas gofrestredig” (“registered society”) ar goll o’r testun Cymraeg ym mharagraff 1(1) o’r Atodlen i Orchymyn 2008 o ganlyniad i ddiwygiad a wnaed gan OS y DU.
Fodd bynnag, gellir mewnosod y diffiniad o “nodweddion gwarchodedig” yn y rhestr o hyd ac nid ystyrir y bydd y dull a ddefnyddir yn achosi problemau i’r darllenydd.
O ystyried y problemau yn y rhestr bresennol o ddiffiniadau yn y Gymraeg ym mharagraff 1(1) o’r Atodlen i Orchymyn 2008, bydd yn cael ei adolygu fel rhan o waith parhaus Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Fframwaith Safonau Moesegol Llywodraeth Leol yng Nghymru.